Gweithdai Pwmpenni * Pumpkin Workshop
Cynhaliwyd dwy noson o weithdai addurno pwmpenni yng nghaffi Ty Coffi Antur ‘Stiniog, ganol mis Hydref. Roedd y ddau weithdy yn llwyddiant mawr, gyda pawb wedi mwynhau yn arw iawn.
Nosweithiau yn llawn hwyl a bwrlwm wrth i bawb gael bod yn greadigol efo’r blodau oedd ar gael iddynt, i greu eu gosodiad pwmpenni.
Rhoddwyd detholiad o flodau hyfryd i bob mynychwr, a chreuwyd gosodiadau bendigedig ac unigryw. Roedd gweld pawb yn mwynhau ac yn datblygu eu hyder yn ystod y noson, a gadael i’r awen greadigol sydd ynddom i gyd lifo, yn wych iawn!
Roedd yr ymateb yn arbennig gyda phawb yn nodi eu bod wedi mwynhau yn fawr iawn.
Gwelir lluniau o bob gosodiad ar y gwefannau cymdeithasol – Facebook ac Instagram ar gyfrif @cwtblodau.
Dyma luniau o’r ddwy noson, pawb efo eu gosodiad pwmpenni, yn amlwg yn prowd iawn.
Mae dyddiadau am weithdau torch Nadolig wedi eu trefnu, ac wedi eu llenwi yn barod, diolch yn fawr i chi gyd am eich cefnogaeth!
Byddaf hefyd yn hysbysebu gweithdai yn ystod 2025. Cadwch lygaid allan ar y gwefannau cymdeithasol –am fwy o wybodaeth.
Leisa
- - - - -
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Tachwedd 2024 ein papur bro, Llafar Bro .
The above originally appeared in the November 2024 edition of our community newspaper, Llafar Bro, describing two workshops held at Tŷ Coffi Antur Stiniog in October, decorating pumpkins with flowers. A lot of fun was had, and we all enjoyed the creative process, and some prosecco too!