Gweithdy Codi Calon * Pick-me-up Workshop
Cynhaliwyd sesiwn gweithdy ‘Codi Calon’ yng nghaffi Tŷ Coffi Antur Stiniog, ddiwedd mis Chwefror. Roedd y gweithdy yn llwyddiant mawr, gyda pawb wedi mwynhau yn arw iawn. Braf oedd croesawu criw newydd, yn ogystal â hen wynebau i’r sesiwn.
Er fod y tywydd yn arw iawn y prynhawn hwnnw, cafwyd amser hyfryd, yn llawn hwyl a chwerthin, wrth i bawb fod yn greadigol, gan rhyddhau eu creadigrwydd mewnol!
Roedd eu cynlluniau ar gyfer eu gosodiadau yn arbennig efo’r blodau oedd ar gael iddynt. Cafodd pawb gymysgfa o flodau a deiliach hyfryd, oedd yn cynnwys Anemone, Iris, Lisianthus, rhosod bach, Limonium, waxflower, dail eucalyptus, a gweiriach hyfryd. Efo blodau ychwanegol ar gael, rhosod melyn a carnations.
Creuwyd y gosodiad blodau mewn oasis eco-gyfeillgar, oedd yn eistedd mewn potyn metal addurnol. Fel y dywedais yn barod, roedd y canlyniadau terfynol yn arbennig iawn gyda gosodiad pob un yn wahanol ac unigryw. Roedd eu bwystfil bach creadigol wedi cael ei ryddhau!
Roedd yr ymateb yn arbennig gyda phawb yn nodi eu bod wedi mwynhau yn fawr iawn.
Dyma lun o’r prynhawn, pawb efo’u gosodiadau bendigedig.
Gwelir lluniau o bob gosodiad ar y gwefannau cymdeithasol – Facebook ac Instagram ar gyfrif @cwtblodau.
Mae gweithdy creu torch Pasg ar y gweill. Cadwch lygaid allan ar y gwefannau cymdeithasol –am fwy o wybodaeth.
Diolch i bawb am eu cefnogaeth, Leisa
- - - - -
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Mawrth 2025 ein papur bro, Llafar Bro .
The above originally appeared in the March 2025 edition of our community newspaper, Llafar Bro, describing a workshop held at Tŷ Coffi Antur Stiniog at the end of February.
The Pick-Me-Up workshop was special, thank you to everyone that came and took part. All the girls’ displays were amazing and unique!