Gweithdy Gosod blodau- Yr Ysgwrn -Flower Arranging Workshop

Braint a phleser oedd cael cynnal gweithdy gosod blodau yn Yr Ysgwrn fel rhan o wythnos o weithgareddau Trawsnewid. Croesawyd trigolion yr ardal i’r sesiwn, yng ngaffi’r Ysgwrn. Lleoliad bendigedig, yn enwedig gan fod yr haul wedi treiddio drwy’r cymylau, ac yn gadael inni werthfawrogi’r olygfa.

Nod y gweithdy oedd creu gosodiad yn defnyddio amrywiaeth o flodau hyfryd, o liwiau pastel, gydag ambell flodyn lliwgar i wneud y ‘pop’ bach o liw. Bu i’r wyth oedd yn rhan o’r gweithdy fwynhau yn fawr.

Rhoddodd Leisa gyflwyniad byr i ddechrau, wrth i bawb fwyhau paned a chacen. Yn dilyn hynny dangoswyd y blodau a’r deiliach oedd ar gael iddynt i greu eu basged.    

Y blodau oedd ar gael yn y gweithdy oedd Lisianthus pinc, carnations hyfryd mewn lliwiau o felyn, peach a Yukari cherry, Gerbera, Astilbi pinc, Delphinium glas golau, lafant, dau fath o Chrystanthemum Babette a pom poms lliw apricot. Hefyd cymysg o ddeiliach Dance, Pittosporum, a mantell y forwyn (Lady’s mantle), i fframio’r gosodiad.

Creuwyd y gosodiad blodau mewn oasis eco-gyfeillgar, oedd yn eistedd mewn basged, a llwyddodd y criw i lenwi eu basged efo’u cynllun blodeuog lliwgar, hyfryd. Roedd y canlyniadau terfynol yn arbennig iawn gyda gosodiad pob un yn wahanol ac unigryw. Roedd yn hyfryd gweld eu creadigrwydd yn blodeuo!

Roedd yr ymateb yn arbennig gyda phawb yn nodi eu bod wedi mwynhau yn fawr iawn. 
Dyma lun o’r prynhawn, pawb efo’u gosodiadau bendigedig. 

 

Gwelir lluniau o bob gosodiad ar y gwefannau cymdeithasol – Facebook ac Instagram ar gyfrif @cwtblodau.

Bosib y byddaf yn trefnu gweithdai eraill yn fuan. Cadwch lygaid allan ar y gwefannau cymdeithasol –am fwy o wybodaeth.

Diolch i bawb am eu cefnogaeth, Leisa, Y Cwt Blodau

- - - - -

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Gorffennaf 2025 ein papur bro, Llafar Bro .

- - - - - 

The above originally appeared in the July 2025 edition of our community newspaper, Llafar Bro, describing a workshop held at Yr Ysgwrn, Trawsfynydd in June. 

Another special day, thank you to all who took part and contributed to a fun filled session. All the arrangements were beautiful, and every one entirely unique to its creator!